Ysgol Friars
Fel cyn-ddisgyblion yn Ysgol Friars ym Mangor, roedd Mark a Susan yn awyddus i barhau eu cyswllt gyda chymuned yr ysgol a gwneud cyfraniad i brofiad myfyrwyr. Gan gydnabod yr heriau ariannol cynyddol sy’n wynebu rhieni a’r pryderon cynyddol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc, mae Cronfa Gymunedol WPV wedi canolbwyntio ei ymdrechion i gefnogi atal yr heriau yma.
O ystyried bod disgyblion wedi bod trwy gymaint dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ysgol Friars bob amser wedi ymdrechu i wneud beth bynnag sy’n bosib i gefnogi ein pobl ifanc. Er gwaethaf ein hymdrechion, mae wastad mwy y gellir ei wneud. Diolch i haelioni Watkin Property Ventures rydym yn gallu cyflogi dau gwnselydd llawn amser yn yr ysgol. Maen nhw hefyd wedi adeiladu canolfan pwrpasol i ni ar y safle i ddarparu’r cwnsela y mae mawr ei angen. Bellach mae gennym bedair ystafell briodol yn ein hadeilad annibynnol ein hunain lle gallwn gefnogi ein pobl ifanc drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn golygu’r popeth i’n disgyblion, gallwn eu cefnogi trwy gydol y flwyddyn, a chaniatáu mynediad nid yn unig i’n cwnselwyr newydd ond i unrhyw asiantaeth allanol sydd ei hangen ar ein plant.
Martin Williams, Dirprwy Bennaeth, ar ran holl ddisgyblion a staff Ysgol Friars