Mae Watkin Property Ventures yn darparu cyllid datblygu i fusnesau eiddo sy’n mentro. Mae’r cwmni hefyd yn buddsoddi ac yn datblygu eiddo ei hun ar hyd a lled y DU.
Rydym yn fusnes preifat, teuluol. Ers dros naw cenhedlaeth, mae teulu Watkin Jones wedi bod yn ymwneud â phob maes o thir ac eiddo – o adeiladu, datblygu a buddsoddi, i ddarparu cyllid.
Sefydlwyd busnes teuluol cyntaf Watkin Jones ym Mangor ym 1791. Gan ddechrau mewn gwaith coed, symudodd y busnes yn fwy diweddar i mewn i faes adeiladu. Bellach yn cael ei adnabod fel Watkin Jones plc, roedd y cwmni wrth galon twf yr ardal leol, gan gynnwys adeiladau newydd Prifysgol Bangor. Symudodd Watkin Jones i’r sector preswyl yn y 1920au, gan adeiladu cartrefi preifat ar draws gogledd Cymru, cyn ehangu yn y 1990au gydag adran cartrefi newydd.
Fel cwmni, rydym yn falch o gefnogi llawer o brosiectau a mentrau elusennol yn ein cymuned ac mae ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth yn rhan bwysig o’n hunaniaeth.
O’r cychwyn cyntaf rydym wedi cefnogi elusennau gyda phwyslais yn arbennig ar iechyd meddwl a gwella lles pobl ifanc a bregus.
Mark Watkin Jones
Mark Watkin Jones ydw i, fe ges i fy ngeni ym Mangor a fy magu yn Llanfairfechan tan oeddwn i’n 16 pan symudodd fy nheulu i Fangor. Roeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Friars cyn mynd i Prifysgol Portsmouth gan raddio yn 1990 gyda BSc (Anrh) mewn Rheolaeth Adeiladu a dechrau fy ngyrfa yn Watkin Jones. Cefais fy ngwneud yn Brif Weithredwr yn 2000 cyn rhestru’r cwmni’n llwyddiannus ar y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain yn 2016 a gadael y busnes yn 2018. Yn 2019 fe wnes i sefydlu Watkin Property Ventures, ac fel Prif Weithredwr y cwmni rydw i hefyd yn gadeirydd Cronfa Gymunedol WPV.
Yn ystod fy ngyrfa yn Watkin Jones fe wnes i fwynhau gweithio gyda llawer o’n cymuned leol gan helpu nhw i ddatblygu, nifer o’r rheiny wedi dod trwy ein rhaglen ysgoloriaeth gyda Choleg Menai (bellach Grŵp Llandrillo Menai). Mae llawer ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.
Yn drist iawn, yn 2002 collodd fy mrawd, Matthew ei fywyd i hunanladdiad, felly mae gen i brofiad personol o ddelio â’r heriau y gall salwch meddwl achosi i deuluoedd. Rwy’n gwerthfawrogi pa mor ffodus ydw i, ac rwy’n angerddol am geisio cefnogi sefydliadau sy’n canolbwyntio’n ar helpu pobl yn ein cymuned, yn enwedig ym maes ymwybyddiaeth iechyd meddwl.
Susan Ashworth
Fy enw i yw Susan Ashworth ac rydw i wedi byw ym Mangor y rhan fwyaf o fy oes. Roeddwn i yn ddisgybl yn Ysgol Cae Top ac Ysgol Friars cyn dechrau gyrfa trin gwallt dros gyfnod o dros 30 mlynedd, gan fod yn berchen ar salon trin gwallt ym Mangor a Phorthaethwy.
Rwyf bob amser wedi mwynhau gweithio gydag oedolion ifanc ac yn gynnar yn fy ngyrfa fe wnes i gwblhau cymhwyster addysgu TAR a chael cyfle i weithio yng Ngholeg Menai (bellach Grŵp Llandrillo Menai) yn dysgu sgiliau trin gwallt, astudiaethau busnes a gwasanaeth cwsmer. Roeddwn i hefyd yn rhedeg gwely a brecwast bychan a chaffi llwyddiannus, y ddau ym Mangor.
Yn fy mhroffesiwn rwyf wedi dod ar draws pob math o bobl o bob cefndir a gyda blynyddoedd o brofiad o weithio yn y diwydiant gwasanaeth, rwy’n deall, yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Rwy’n gwybod y gall unigolyn fod yn dioddef o effeithiau iechyd meddwl a phroblemau eraill er bod gwen ar eu wynebau. Yn aml iawn nid ydynt yn gwybod at bwy nac i ble i droi. Dyna pam bod cefnogi achosion lleol a sefydliadau sy’n cefnogi pobl yn ein cymuned mor bwysig i mi.
Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 03/10/2026 13:32:16.