Partneriaid Elusennol

Yn ogystal â llawer o grwpiau, clybiau ac ymgyrchoedd lleol rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau sefydledig ac adnabyddus ledled gogledd Cymru.

Ers sefydlu Watkin Property Ventures, mae cefnogi elusennau sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl wedi bod yn rhan o’r ffordd rydym yn gweithio ac yn ffordd o roi yn ôl i’r gymuned lle rydym wedi byw a gweithio ers cymaint o flynyddoedd.

Ambiwlans Awyr Cymru

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gofal feddygol ac yn achub bywydau pobl ledled Cymru 24/7.  Mae’r elusen yn gweithredu o ganolfannau ar hyd a lled Cymru. Ers ei sefydlu mae wedi cwblhau dros 49,500 o deithiau ac mae ar gael i helpu rhai sy’n dioddef anaf neu salwch sy’n bygwth bywyd.  Ambiwlans Awyr Cymru oedd elusen staff Watkin Property Ventures yn 2022/23.

Awyr Las

Awyr Las yw’r elusen GIG lleol. Mae’n helpu i sicrhau bod pobl ar draws y rhanbarth yn elwa o wasanaethau gwell pan fydd arnynt eu hangen fwyaf. Mae’r elusen yn darparu gwasanaethau ac offer sy’n newid bywyd i gleifion mewn ysbytai a chymunedau ar draws gogledd Cymru. O bethau bach fel cadeiriau cyfforddus i gleifion yn yr adran achosion brys i’r dechnoleg diweddaraf ar gyfer unedau canser, strôc a gofal arbennig i fabanod.

Cae Doctor

Mae Cae Doctor yn ardal werdd gymunedol sy’n cael ei redeg gan Grŵp Cymunedol Maestryfan yn ardal Ffriddoedd Bangor. Gyda ein cefnogaeth, mae’r grŵp wedi gweithio gyda’i gilydd ac wedi hawlio’r ardal yn ôl i’r gymuned. Mae wedi dod â phobl at ei gilydd, wedi creu ymdeimlad o berthyn ac wedi ysbrydoli pobl i ddysgu am natur a thyfu cynnyrch a phlanhigion sydd o fudd i fywyd gwyllt lleol.

Cuddles

Mae Cuddles yn darparu offer a chyfleusterau i’r uned newydd-anedig fel y gall staff ddarparu’r gofal gorau posibl i fabanod cynamserol. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i deuluoedd wrth iddynt wynebu misoedd cyntaf anodd gyda’u babanod. Cuddles oedd elusen staff Watkin Property Ventures yn 2023/24.

Achub Mynydd Ogwen

Mae’r sefydliad yn ymateb i ddigwyddiadau a damweiniau yn mynyddoedd a dyffrynnoedd Ogwen, y Glyderau, a’r Carneddau yng ngogledd Eryri. Mae’r tîm yn cynnwys 50 o wirfoddolwyr sydd ar alwad 24 awr y dydd, thrwy gydol y flwyddyn, maen nhw i gyd yn fynyddwyr profiadol gyda gwybodaeth helaeth o’r ardal, a hefyd wedi eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf. Achub Mynydd Ogwen oedd elusen staff Watkin Property Ventures yn 2045/25.

Newyddion am Partneriaid Elusennol

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 19/08/2026 21:08:36.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com