Diolch o galon am roddion Banc Bwyd Coed Mawr
Yn ystod tymor u Nadolig, dangosodd trigolion lleol wir haelioni drwy gefnogi teuluoedd yng nghymuned Bangor.
Ym mis Rhagfyr, roedd Watkin Property Ventures yn falch o weithio gyda Banc Bwyd Coed Mawr i godi arian i deuluoedd a thrigolion y gymuned i gael mynediad at becynnau bwyd. Am bob £1 a godwyd, roedd Watkin Property Ventures wedi cytuno i gyfranu punt arall er mwyn sicrhau bod pob rhodd yn mynd ychydig ymhellach.
Gan fynd y tu hwnt i’w targed, derbyniodd y banc bwyd £2,620 mewn rhoddion, gyda chyfraniadau Watkin Property Ventures yn dod â’r cyfanswm i £5,240. Roedd yr arian yn help i ddarparu pecynnau bwyd a chyflenwadau hanfodol eraill i deuluoedd dros y Nadolig.
Mae Watkin Property Ventures yn cefnogi achosion yn gyson ar draws gogledd Cymru trwy eu cronfa gymunedol. Dywedodd Mark Watkin-Jones, Prif Weithredwr y cwmni: “Rydw i’n hynod falch o’r gymuned leol am godi’r arian yma i Fanc Bwyd Coed Mawr. Mae’r awydd i gefnogi’r rhai sy’n cael trafferth bwydo eu teuluoedd yn siarad cyfrolau am haelioni a charedigrwydd ein cymuned.”
Dywedodd Christine King o Fanc Bwyd Coed Mawr: “Roedd cyfraniadau caredig gan y gymuned a Watkin Property Ventures yn ein helpu ni i ddarparu pecynnau bwyd i dros 60 o deuluoedd. Rydym wedi gweld mwy a mwy o bobl yn dod atom, yn cael trafferth i gwrdd â chostau o ddydd i ddydd – mae tymor y Nadolig bob amser yn ychwanegu at y pwysau yma. Rydyn ni’n gwybod fod hwn yn gyfnod heriol i lawer, felly rydym yn ddiolchgar am bob un rodd.”
Hoffai Watkin Property Ventures a Banc Bwyd Coed Mawr hefyd ddiolch i Bangor Aye am eu cefnogaeth wrth hyrwyddo’r ymgyrch.