Banc Bwyd Coed Mawr

Sefydlwyd y Banc Bwyd yn 2016/17 – gan weithio gydag archfarchnad leol a grŵp rhieni a phlant bach. Yn ystod y pandemig parhaodd y gwasanaeth, gan ddosbarthu i bensiynwyr a phobl fregus yn yr ardal. Ar ôl i gyfyngiadau gael eu codi ac wrthi i bobl fynd yn ôl i weithio, cynyddodd y galw am gymorth – gyda llawer yn canfod nad oedd ganddynt waith neu fod pwysau costau cynyddol yn golygu bod angen cymorth y banc bwyd arnynt.

Ar hyn o bryd mae’r ganolfan yn dosbarthu rhwng 40 a 50 bag bwyd yr wythnos gyda phum pryd o fwyd a grawnfwydydd brecwast ym mhob un. Mae hyn yn cyfateb i dros 1000 o brydau bwyd y mis, ac mae disgwyl iddynt gyrraedd 40,000 o brydau bwyd wedi eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r Banc Bwyd yn chwarae rhan bwysig yn lleol. Maen nhw’n gwneud mwy na dosbarthu bwyd – maen nhw’n agos at y gymuned ac maen nhw bob amser yn barod i wrando a darparu cymorth emosiynol pan fo angen.

Banc Bwyd

Newyddion am Banc Bwyd Coed Mawr

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:53:27.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com