Cyhoeddi Cuddles fel elusen Watkin Property Ventures ar gyfer 2024

Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi cyhoeddi mai Cuddles yw’r elusen sydd wedi ei enwebau gan staff ar gyfer 2024. Yn elusen sy’n gweithio gydag Uned Newyddenedigol Ysbyty Glan Clwyd, eu nod yw darparu offer hanfodol a chefnogaeth i deuluoedd a babanod.

Yn awyddus i helpu gwaith ac ymroddiad y tîm yn yr ysbyty yn Bodelwyddan gyda’u codi arian eleni, mae’r cyhoeddiad yn adlewyrchu ymrwymiad WPV a’i staff i gyfrannu at les y gymuned yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Richard Price, Rheolwr Prosiectau Cymunedol WPV: “Roedden ni am gydnabod ymdrechion diflino staff Newyddenedigol Ysbyty Glan Clwyd ond hefyd y gwaith gwych y mae gwirfoddolwyr Cuddles yn ei wneud i’w cefnogi nhw. Maen nhw’n darparu gwasanaethau hanfodol i fabanod a theuluoedd sy’n wynebu heriau sylweddol. Rwy’n gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth yn ogystal â chodi  ymwybyddiaeth o’u gwaith anhygoel.”

Fel elusen staff WPV, bydd Cuddles yn cael budd o weithgareddau codi arian trwy gydol y flwyddyn, wrth i’r tîm gymryd rhan mewn heriau a digwyddiadau gwahanol.

Sefydlwyd Cuddles yn 1993 gyda’i brif amcan o gefnogi adnoddau sy’n cael eu ddarparu gan y GIG, gan ddarparu offer a chyfleusterau i’r uned fel y gall staff ddarparu’r gofal gorau posibl i fabanod cynamserol. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i deuluoedd wrth iddynt wynebu misoedd cyntaf anodd gyda’u babanod cynamserol.

Mae Cuddles yn cael ei ariannu yn gyfan gwbl trwy gefnogaeth y cyhoedd ac chaiff ei redeg yn llwyr gan wirfoddolwyr.

Cuddles 1

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 20:16:02.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com