Hillgrove
Mae Hillgrove, Bangor yn wasanaeth llety â chefnogaeth gyda 18 ystafell wely ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-25 sydd wedi profi neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae’r eiddo wedi’i ariannu gan Watkin Property Ventures ac yn cael ei reoli gan Digartref Cyf.
Mae’r ganolfan yn darparu llety gan gynnig amgylchedd diogel a sefydlog ar eu cyfer. Mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio i rymuso pobl ifanc drwy eu helpu i ddatblygu’r sgiliau hanfodol i fyw’n annibynnol.
Trwy gymorth wedi’i deilwra, mae preswylwyr yn cael eu hannog i wneud yn fawr o gyfleodd hyfforddiant ac addsyg, er mwyn meithrin hyder, datblygu sgiliau bywyd ymarferol a gweithio tuag at ddyfodol mwy cadarnhaol. Ein nod trwy Hillgrove a gweithio gyda Digartref Cyf yw cefnogi pobl ifanc i symud ymlaen yn llwyddiannus i fyw’n annibynnol a lleihau eu risg o ddod yn ddigartref yn y dyfodol.






