Bangor 1876 yn sicrhau nawdd o £25,000

Mae Clwb Pêl-droed Bangor 1876 yn ddiolchgar i Watkin Property Ventures yn dilyn sicrhau cytundeb nawdd newydd. Bydd y cyfanswm o £25,000 yn galluogi’r clwb i roi cymorth ychwanegol i chwaraewyr ac mae’n gam tuag at ddileu rhwystrau ariannol i bobl ifanc sydd eisiau chwarae pêl-droed ym Mangor.

Gyda’u hymrwymiad i’r gymuned, mae Watkin Property Ventures yn cydnabod mor bwysig ydi chwaraeon i hybu lles corfforol a meddyliol. Y gobaith gyda’r rhodd, yw mynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy’n rhwystro pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon tîm gan gynnwys cost gynyddol cludiant a phrynu cit. Wrth barhau â’u partneriaeth gyda Watkin Property Ventures, mae clwb Bangor 1876 yn gobeithio gallu cynnwys hyd yn oed mwy o chwaraewyr yng ngweithgareddau’r clwb.

Cyflwynwyd y rhodd gan Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures, a Susan Ashworth i Glynne Roberts, Cadeirydd Bangor 1876, yng ngêm gyntaf y tymor. Wrth chwarae yng Nghynghrair Gogledd Cymru, curodd Tîm Cyntaf y dynion CPD Llanidloes, gyda sgôr terfynol o 6-0.

Mae Mark yn awyddus i gynnwys pobl ifanc o bob cefndir mewn chwaraeon. Dywedodd: “Rydym yn credu y dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Mae’n bleser gennym gyfrannu at Glwb Pêl-droed Bangor 1876 er mwyn cefnogi’r rhai sy’n wynebu peidio gallu chwarae oherwydd pwysau ariannol neu anawsterau eraill. Mae chwaraeon tîm yn cael effaith bositif ar iechyd meddwl ac mae cefnogi’r clwb pêl-droed yn golygu y gall mwy o chwaraewyr brofi’r manteision.”

Mae’r clwb yn falch iawn o’i wreiddiau ac yn ymroddedig i wasanaethu’r gymuned leol. Mae gan y clwb dîm hŷn, ac adran iau sy’n mynd o nerth i nerth.

Dywedodd Glynne Roberts: “Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Watkin Property Ventures. Mae cynnwys pawb yn bwysig i ni fel clwb, a gyda’r cyfraniad sylweddol yma, gallwn wneud yn siŵr bod ein chwaraewyr iau yn cael eu cefnogi. Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar fwy a mwy o’n chwaraewyr, ac rydym yn awyddus i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael allan.”

Mae cefnogaeth Watkin Property Ventures i Glwb Pêl-droed Bangor 1876 yn adlewyrchu eu hymrwymiad i’r gymuned a’u chyfrifoldeb cymdeithasol. Mae’r cwmni yn cenfogi amryw o fentrau elusennol, gan gynnwys rhaglenni addysg, iechyd, a chwaraeon ar draws y rhanbarth.

CPD Bangor 1876 - Cyflwyno Siec

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:44:02.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com