Clwb Pêl Droed Bangor 1876

Mae’r enw Bangor 1876 yn adlewyrchu gwreiddiau pêl-droed ym Mangor, yn ôl i gyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn y ddinas yn Rhagfyr 1876 i greu clwb. Yr adeg honno, fel heddiw  y nod oedd sicrhau lle i bêl-droed cystadleuol o’r radd flaenaf yn y ddinas a’i dalgylch.

Mae Cronfa Gymunedol WPV wedi gweithio gyda’r clwb dros nifer o flynyddoedd, gan helpu i ehangu mynediad i bêl-droed a dileu rhwystrau ariannol i bobl ifanc sydd am chwarae’r gamp ym Mangor.

Mae rôl bwysig y mae chwaraeon yn ei chwarae o ran hybu lles corfforol a meddyliol pobl wedi cael ei gydnabod ers tro. Trwy gydweithio gyda’r clwb, nod Cronfa Gymunedol WPV yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy fynd i’r afael â’r heriau sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â pethau fel y costau cynyddol sy’n gysylltiedig â chludiant a phrynu’r offer a dillad chwaraeon.

football team

Rydym yn ddiolchgar iawn i Watkin Property Ventures. Mae cynnwys pawb yn bwysig i ni fel clwb, a gyda’r cyfraniad sylweddol yma, gallwn wneud yn siŵr bod ein chwaraewyr iau yn cael eu cefnogi. Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar fwy a mwy o’n chwaraewyr, ac rydym yn awyddus i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael allan.

Glynne Roberts, Cadeirydd, Clwb Pêl-droed Bangor 1876

Oriel Luniau

Newyddion am Clwb Pêl Droed Bangor 1876

Darllenwch fwy am Clwb Pêl Droed Bangor 1876

Am fwy o wybodaeth, gweler y wefan Clwb Pêl Droed Bangor 1876.

Yn ôl i'r Prosiectau

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:55:46.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com