Canolfan les newydd i ddisgyblion

Fel rhan o’n gwaith parhaus gydag Ysgol Friars, mae Bangor Watkin Property Ventures (WPV) wedi ariannu ac adeiladu canolfan les newydd i ddisgyblion. Y fenter yma yw’r cyntaf o’i math yng Nghymru ac mae’n gam sylweddol tuag at flaenoriaethu iechyd meddwl yn yr ysgol a’i chymuned.

Mae’r ganolfan newydd wedi’i chynllunio i fod yn ganolbwynt ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Gydag un cwnselydd llawn amser a dau rhan amser, yn ogystal â chi therapi, Lenny, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan WPV, gall disgyblion gael gafael ar gymorth ac adnoddau i wella eu hiechyd meddwl a’u lles yn gynt.

Wrth fynegi eu diolchg, dywedodd yr ysgol fod y ganolfan newydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol ac yn golygu y gall disgyblion gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn llawer cyflymach. Ers i’r ganolfan agor, mae’r rhestr aros i ddisgybl weld cwnselydd wedi lleihau o naw mis i bythefnos. Mae staff yr ysgol yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaus gan y cyn-ddisgyblion, Mark Watkin Jones a Susan Ashworth, y ddau o WPV sydd wedi gweld sut mae Covid-19 a phwysau bob dydd yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc.

Dywedodd Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr WPV: “Rydym yn falch o roi ein cefnogaeth i ddisgyblion Ysgol Friars drwy’r ganolfan newydd a fydd gobeithio, yn helpu i hyrwyddo iechyd meddwl gwell. Mae’r fenter hon yn cynrychioli ein ymrwymiad i greu amgylchedd lle gall pob person ifanc ffynnu, yn ogystal â datblygu’r gwytnwch sydd ei hangen arnynt i wynebu heriau bob dydd.”

Yn ôl elusen iechyd meddwl, ‘Mind’ mae un o bob pedwar o bobl yn y DU yn profi problemau iechyd meddwl, ond nid yw llawer yn derbyn y cymorth sydd ei angen. Mae hyn, ynghyd â’r nifer cynyddol o bobl ifanc sy’n wynebu heriau iechyd meddwl cyffredin, yn pwysleisio pwysigrwydd y ganolfan newydd yn Ysgol Friars. Mae’r cyfleuster hefyd ar agor i asiantaethau allanol sy’n gweithio gyda’r ysgol, ac mae cynlluniau i ehangu mynediad at fwy o randdeiliaid yn y dyfodol sy’n golygu y bydd y gymuned ehangach hefyd yn elwa.

Mae ein gwaith gydag Ysgol Friars yn dangos ymrwymiad parhaus i’r ysgol, a byddwn yn parhau i gefnogi mentrau sydd wedi’u cynllunio i wella lles a phrofiadau addysgol y disgyblion.

 

Wellness centre

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 20:15:17.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com