Dros £7,400 wedi ei godi i elusen Cuddles

Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi codi dros £7,400 ar gyfer eu helusen staff 2024, sef Cuddles. Bydd y cyfraniad yn mynd tuag at adnewyddu ac ymestyn llety’r rhieni yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r elusen yn gweithio gydag Uned newydd-enedigol yr ysbyty, gan ddarparu offer achub bywyd a chefnogaeth i deuluoedd. Bydd y rhodd yn galluogi Cuddles i barhau i ddarparu gofal gwych yn yr ysbyty.

Drwy gydol y flwyddyn, mae staff WPV wedi trefnu sawl digwyddiad codi arian i gefnogi’r elusen, gan gynnwys gweithgareddau fel raffl, gwerthu cacennau, cystadlaethau staff, her cerdded a theithiau cerdded noddedig. Am y flwyddyn, cododd staff £3,716.80 i Cuddles, gyda Phrif Weithredwr WPV, Mark Watkin Jones, yn ymrwymo i gyfateb i’r swm, gan ddod â chyfanswm y rhodd i £7,433.60.

Hoffai WPV ddiolch i bawb a gyfrannodd neu a gefnogodd i weithgareddau codi arian Cuddles, yn ogystal â’r staff am gymryd rhan yn yr heriau.

 

Cuddles

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:44:11.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com