Hwb i Glwb Pêl-droed Bangor 1876
Derbyniodd Clwb Pêl-droed 1876 Bangor rodd o £25,000 am yr ail flwyddyn gan gwmni eiddo lleol, Watkin Property Ventures (WPV).
Mae’r gefnogaeth barhaus yn ariannu tîm iau newydd, yn galluogi staff i fynd ar gyrisiau hyfforddiant pêl-droed a chymorth cyntaf, a helpu’r clwb i brynu offer newydd.
Mae trysorydd y clwb, Les Pegler, wedi dweud bod yr arian wedi bod o fudd sylweddol i’r chwaraewyr a’r gymuned leol. Dywedodd: “Mae effaith rhodd WPV yn enfawr. Mae wedi ein helpu ni i sicrhau y gall ein chwaraewyr a’r gymuned barhau i fwynhau’r gêm wrth iddynt gefnogi ein tîm. Mae ein chwaraewyr yn dangos ysbryd tîm a teimlad o berthyn i’r ardal a mae nhw’n angerddol am bêl-droed lleol. Ers derbyn yr arain gan WPV, mae’r tîm wedi cael dyrchafiad i Haen 2— ein pedwerydd dyrchafiad ers 2019.
“Rydym hefyd wedi gweld effaith gadarnhaol ar ein tîm iau. Mae’r cyfle i chwarae efo’i gilydd wedi rhoi mwy o hyder i lawer o blant ac wedi helpu i ddod â’r gymuned a’r teuluoedd ynghyd. Er ein bod ni’n glwb sy’n cael ei redeg gan gefnogwyr, mae rhoddion fel hyn yn cyfrannu’n helaeth at sicrhau y bod y clwb yn gallu parhau ac yn bwysicach, ein galluogi ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i Fangor a’i phobl. Ni fyddai ein llwyddiant diweddar wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth hael Mark a Susan ers 2019.”
Watad yn awyddus i gefnogi prosiectau sydd o fudd i’r gymuned leol ac i gydnabod effaith gadarnhaol chwaraeon ar iechyd meddwl, ychwanegodd Mark Watkin-Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cefnogi Clwb Pêl-droed Bangor 1876 eto eleni drwy ein Cronfa Gymunedol. Mae hyn yn gadarnhaol i’r gymuned, ond mae hefyd yn caniatáu i bobl leol a phlant gymryd rhan mewn chwaraeon o oedran ifanc, drwy chwarae a gwylio. Mae’n dod â phobl at ei gilydd ac yn helpu tynnu pobl allan I’r awyr agored.
“Gan fy mod wedi fy ngeni a’m magu yn ardal Bangor, rwy’n teimlo’n falch o allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Dwi’n edrych ymlaen at glywed mwy o straeon positif gan y clwb”.