Cwmni Buddsoddi mewn Eiddo yn noddi Tîm Rygbi Dan 8

Mae cwmni Watkin Property Ventures (WPV) drwy eu cronfa gymunedol, wedi noddi crysau tîm rygbi dan 8 lleol ‘Little Stars’.

Yn rhan o Glwb Rygbi Bangor, mae Little Stars yn annog plant i ddysgu sgiliau fel disgyblaeth, parch, a gwaith tîm trwy gymryd rhan a chael hwyl yn y chwarae rygbi. Mae’r clwb yn chwarae rhan bwysig wrth annog y gymuned i gymryd rhan yn rygbi, gan redeg timau ar gyfer plant mor ifanc â thair oed hyd at lefel y gynghrair genedlaethol.

Mae’r cyfraniad yma adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i gefnogi prosiectau lleol a all wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau. Dywed Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr, Watkin Property Ventures: “Mae gan Little Stars, yn ogystal â Chlwb Rygbi Bangor, wreiddiau ar draws y gymuned leol – ac rydym yn falch o fod yn rhan o hynny. Dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm, ac rydym yn gobeithio y bydd y criw ifanc yn elwa o’n cyfraniad”.

Mae Jessica Arthur yn un o hyfforddwyr y Little Stars ac yn rhiant balch i un o’u chwaraewyr; ychwanegodd: “Pan gytunodd cronfa gymunedol Watkin Property Ventures i gefnogi ein tîm, roedden ni’n yn hynod ddiolchgar. Nid yn unig fydd y tîm yn falch o wisgo logo eu clwb, ond mi fyddant yr un mor falch o gynrychioli Watkin Property Ventures wrth chwarae eu gorau ar y cae o wythnos i wythnos. Fel tîm, rydyn ni eisiau diolch i’r cwmni, Mark a Susan am eu cyfraniad hael.”

Mae cronfa gymunedol WPV yn awyddus i gefnogi’r cymunedau y maent yn ymwneud â nhw, gan gydnabod y gall cyllid wedi’i dargedu wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae’r cwmni wedi cefnogi amrywiol elusennau ac achosion, gan gynnwys clybiau chwaraeon, ysgolion lleol, gerddi cymunedol, banciau bwyd ac elusennau iechyd meddwl.

Mae Clwb Rygbi Bangor yn ymfalchïo o fod yn gynhwysol a chroesawgar i bob aelod. Os hoffech wybod mwy: https://www.bangor-rugby.co.uk/events

Y tîm Little Stars yn gwisgo eu crysau newydd

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:44:07.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com