Lansio ymgyrch Nadolig Banc Bwyd Coed Mawr – galw am gymorth
Gyda chostau cynyddol a mwy o alw am gymorth, mae Banc Bwyd Coed Mawr yn lansio ei ymgyrch Nadolig yr wythnos hon ar y cyd â Watkin Property Ventures.
Y nod yw codi arian i ddarparu cyflenwadau ychwanegol i deuluoedd lleol sy’n wynebu trafferthion rhoi bwyd ar y bwrdd dros y Nadolig. Trwy’r ymgyrch mae gwirfoddolwyr yn apelio ar drigolion a busnesau Bangor i gyfrannu er mwyn roi rhywfaint o sicrwydd i deuluoedd yn ystod cyfnod yr ŵyl.
Mae Christine King o Ganolfan Gymunedol Coed Mawr yn egluro: “Rydym yn gweld mwy a mwy o deuluoedd lleol yn dod atom am eu bod yn cael trafferth i dalu costau byw dydd i ddydd. Ar ben hynny mae pawb yn gwybod bod y Nadolig yn dod â hyd yn oed mwy o bwysau yn ei sgil. Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn dod at ein gilydd i wneud beth allwn i helpu. Rydym wedi sefydlu tudalen JustGiving fel y gall pobl gyfrannu. Rydyn ni’n gwybod bod pethau’n anodd i bawb, felly rydyn ni’n ddiolchgar am unrhyw rodd waeth pa mor fach.”
“Rydym mor ddiolchgar i Watkin Property Ventures am eu cefnogaeth – mae’n gwneud byd o wahaniaeth ac yn golygu y gallwn helpu mwy o bobl mewn angen. Rydym wedi cynnal ymgyrch fel hon ers sawl blwyddyn ac wedi gweld dros ein hunain y gwahaniaeth y gall wneud dros gyfnod sydd yn medru bod yn anodd, yn enwedig os ydych yn cael trafferthion ariannol. Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr bwyd lleol i wneud yr pecynnau bwyd ac mae gennym grŵp bach o wirfoddolwyr sy’n ein helpu i’w dosbarthu bob blwyddyn.”
Sefydlwyd y banc bwyd yn 2016, mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr lleol o Ganolfan Gymunedol Coed Mawr i ddarparu cefnogaeth a pharseli bwyd i drigolion. Mae’r grŵp yn gweithio gydag archfarchnadoedd lleol ac wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n dibynnu ar y banc bwyd yn dilyn y pandemig a’r cynnydd diweddar mewn costau byw.
Yn ogystal â’r cymorth misol y mae’n ei ddarparu, mae Watkin Property Ventures wedi cytuno i roi arian cyfatebol am bob punt sy’n cael ei godi yn ystod Ymgyrch y Nadolig – gyda tharged o £2,500 wedi’i osod.
Dywedodd Mark Watkin Jones: “Mae tîm Banc Bwyd Coed Mawr yn gweithio’n galed ac yn chwarae rhan bwysig yn lleol, ac maen nhw’n gwneud cymaint mwy na dosbarthu bwyd. Maen nhw’n agos at y gymuned a bob amser yn barod i wrando a rhoi cymorth emosiynol pan fo angen. Roedden ni yn fwy na hapus i gefnogi’r ymgyrch hon a byddwn yn annog pobl i roi’r hyn a allant drwy’r dudalen JustGiving.”
Ar hyn o bryd mae’r ganolfan yn dosbarthu rhwng 40 a 50 pecyn bwyd yr wythnos gyda phum pryd o fwyd a grawnfwydydd brecwast ym mhob un. Mae hyn yn cyfateb i dros 1,000 o brydau bwyd y mis. Mae lansiad ymgyrch y Nadolig yn cyd-fynd â’r banc yn cyrraedd cyfanswm o 40,000 o brydau wedi’u dosbarthu.