Staff Watkin Property Ventures yn codi £2,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr
Dewisodd staff Watkin Property Ventures (WPV) Ambiwlans Awyr Cymru fel eu elusen staff ar gyfer 2022/23. Trwy gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau, llwyddodd gweithwyr i godi cyfanswm o £1,000, gyda Chronfa Gymunedol y cwmni yn rhoi punt am bunt i gyrraedd y nod o £2,000.
Mae’r rhodd yn amlygu ymrwymiad WPV i gael effaith gadarnhaol yn y gymuned ac i gefnogi sefydliadau sydd â rôl hollbwysig yn y gwasanaethau brys lleol.
Gyda gweithgareddau codi arian ac adeiladu tîm trwy gydol y flwyddyn roedd staff yn frwdfrydig wrth gefnogi’r elusen.
Bydd y rhodd o £2,000 yn cyfrannu’n uniongyrchol at waith yr Ambiwlans Awyr o ddarparu gwasanaethau achub bywyd a gofal meddygol mewn sefyllfaoedd brys. Mae WPV yn ddiolchgar i’r holl staff, partneriaid, a chefnogwyr a gyfrannodd at yr ymgrych codi arian eleni.