Ehangu mynediad digidol i ddisgyblion Ysgol Friars

Mae gan mwy o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Friars fynediad i dechnoleg a dysgu a ar-lein diolch i gyfraniad diweddar o liniaduron gan ddau gyn-ddisgybl.

Bydd y cyfrifiaduron, a roddwyd gan Mark Watkin Jones a Susan Ashworth, yn helpu i bontio’r bwlch digidol ac yn cefnogi cyfleoedd cyfartal i fyfyrwyr lefel A yn yr ysgol ym Mangor. Mae’r rhodd yn gam sylweddol hefyd tuag at sicrhau bod gan pob myfyriwr fynediad at yr adnoddau angenrheidiol i lwyddo yn eu hastudiaethau.

Gan fynegi eu diolch, dywedodd yr ysgol eu bod wrth eu bodd yn derbyn y cyfraniad hael gan Mark a Susan a’u bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus. Fel cyn-ddisgyblion, mae’r ddau yn adnabod yr ysgol a’r gymuned yn dda ac yn deall yr effeithiau y mae Covid-19 a’r cynnydd mewn costau yn eu cael ar bobl ifanc a’u teuluoedd.

Dywedodd Susan Ashworth: “Rydym yn falch ein bod yn gallu cefnogi disgyblion Ysgol Friars fel hyn. Rydym yn deall bod hwn wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i bobl ifanc yn sgil y pandemig a rwan yr argyfwng costau byw. Mae cael mynediad at offer TG yn hanfodol er mwyn i fyfyrwyr ffynnu a llwyddo. Rydym yn hyderus y bydd y cyfrifiaduron newydd yn helpu’r myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.”

Mae’r rhodd ddiweddar yma yn rhan o gefnogaeth barhaus Mark a Susan i Ysgol Friars sy’n cynnwys ystod o fentrau sydd yn ceisio gwella lles a phrofiad addysgol myfyrwyr yr ysgol.

Ysgol Friars

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 20:15:32.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com