Clwb Criced Bangor
Sefydlwyd Clwb Criced Bangor yn 1856 ac mae wedi bod yn chwarae ar faes Tŷ Newydd ers bron i ganrif. Dros y 12 mis diwethaf, mae’r clwb wedi bod yn datblygu ei dimau iau ac wedi creu tîm i ferched. Yn ganolbwynt cymunedol gweithgar, mae Clwb Criced Bangor yn caniatáu i bobl ifanc yr ardal ddod i roi cynnig ar y gamp, i ddysgu sgiliau newydd ac i gymdeithasu.
Mae cefnogaeth gan Gronfa Gymunedol WPV yn galluogi’r clwb i gyflogi hyfforddwyr cymwys i helpu gwirfoddolwyr ac i hyfforddi chwaraewyr iau. Mae cefnogaeth WPV hefyd yn helpu i hyrwyddo cenhadaeth y clwb i hyrwyddo diwylliant chwaraeon yn y gymuned leol.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Mark a’r cwmni am eu nawdd hael. Bydd y cyfraniad sylweddol yma yn mynd ymhell i gryfhau ein hymdrechion i greu cymuned ar gyfer ein aelodau ac i rai sydd gan ddiddordeb mewn criced. Gyda’r gefnogaeth, gallwn wella cyfleusterau a gall ein chwaraewyr gael hyfforddiant gan dîm profiadol. Heb os, bydd y rhodd yn annog datblygiad ein cricedwyr ifanc.
Gareth Edwards, Clwb Criced Bangor
Newyddion am Clwb Criced Bangor
Darllenwch fwy am Clwb Criced Bangor
Am fwy o wybodaeth, gweler y wefan Clwb Criced Bangor.
Yn ôl i'r Prosiectau