Criced Cymru
Mae Criced Cymru yn un o 39 Bwrdd sy’n rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) ac fe’i cydnabyddir hefyd gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru fel Corff Llywodraethu Cenedlaethol criced yng Nghymru. Eu gweledigaeth yw ‘Criced i gipio dychymyg Cymru’ a’u nod ydy i ‘arwain, ysbrydoli a dylanwadu ar dwf, cydraddoldeb a hygyrchedd criced yng Nghymru’. Maen nhw’n ymgorfforiad o nifer o sefydliadau criced gwahanol o bob cwr o Gymru, gyda phob un yn rhannu’r un angerdd dros griced.
Mae eu cenhadaeth yn canolbwyntio ar gefnogi amcanion Criced Cymru a Morgannwg, ond hefyd uchelgeisiau’r ECB a Llywodraeth Cymru ‘drwy gysylltu cymunedau a gwella llesiant drwy ysbrydoli pobl i ddarganfod eu hangerdd dros griced.’
Mae WPV yn falch o allu cyfrannu i Griced Cymru, er mwyn sicrhau bod Criced yn cael ei chwarae a’i fwynhau yng Ngogledd Cymru.