Danteithion Pasg i Ysgol Hirael

Roeddem wrth ein boddau i roi wyau Pasg i’r plant sy’n mynychu Y Nyth yn Ysgol Hirael, Bangor.

Rydym yn falch o gefnogi Y Nyth, sef ystafell lles sy’n darparu amgylchedd diogel a chefnogol i ddisgyblion yr ysgol. Mae’n ofod i gynnal gweithgareddau sy’n annog eu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac annibyniaeth, gan roi’r cyfle i ddysgu drwy brofiad. Mae’n hyfryd gweld bod yr wyau Pasg yn dod â phleser i’r plant yno!

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:43:08.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com