Cyfanswm o £816,428 wedi’i godi ar gyfer ymgyrch Quality Moments Matter Tŷ Gobaith
Dros gyfnod o 36 awr ar 23–24 o Dachwedd, roedd Watkin PV yn cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian ‘Quality Moments Matter Tŷ Gobaith’, gyda’r bwriad o gyrraedd targed o £500,000. Fe aeth y digwyddiad y tu hwnt i’r targed hwnnw, gan gyrraedd cyfanswm anhygoel o £816,428.
Fel partner oedd yn cyfrannu arian cyfatebol, fe wnaethon ni addo £20,000 tuag at yr ymgyrch, gan helpu i sicrhau bod pob £1 oedd yn cael ei godi yn cael ei ddyblu, a’r effaith wedyn yn mynd ymhellach. Bydd cyfanswm yr ymgyrch yn cefnogi plant bregus, a’u teuluoedd, i greu atgofion gwerthfawr gyda’i gilydd.
Mae cefnogi achos sy’n dod â gofal, llawenydd a chysur ar adeg mor bwysig yn rhywbeth rydyn ni’n falch o fod yn rhan ohono.
(Mae’r swm sy’n cael ei ddangos yn y llun wedi cynyddu ers iddo gael ei dynnu).
Dyma Fideo Ymgyrch Quality Moments Matter (isod) sy’n sôn am y straeon a’r effaith mae ein cefnogaeth yn ei gael: