Elusen Staff y Flwyddyn 2026
Rydym yn falch o gyhoeddi mai 3 Dads Walking/ Papyrus UK Suicide Prevention sydd wedi’i ddewis fel elusen staff y flwyddyn ar gyfer 2025/26. Cafodd y cyhoeddiad ei gadarnhau wrth i Mike Palmer MBE, un o’r tri tad, ymweld â swyddfeydd WPV ym Mangor gyda’i gyfaill, Gus y ci bach.
Roedd ein Pwyllgor Elusennol yn falch o groesawu Mike Palmer, MBE o 3 Dads Walking, ynghyd â’i gi bach, Gus, i swyddfeydd Watkin Property Ventures wythnos diwethaf.
Rhannodd Mike y daith anhygoel y mae o, Andy a Tim wedi’i gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf, sef cerdded ar draws y DU er cof am eu merched i godi ymwybyddiaeth o atal hunanladdiad a’r gefnogaeth y mae Papyrus UK yn ei gynnig.
Ers 2021 maen nhw wedi cerdded dros 1,500 milltir efo’i gilydd ar hyd y DU ac wedi codi dros £1.5 miliwn ar gyfer ‘Papyrus Prevention of Young Suicide’.
Mae eu stori o droi colled bersonol yn weithred bwerus yn hynod ysbrydoledig, ac mae’n bwnc sy’n agos at galon llawer ohonom sydd wedi cael ein heffeithio’n bersonol gan hunanladdiad.
Dros y 12 mis nesaf, bydd y Pwyllgor Elusennol yn codi arian drwy weithgareddau a heriau amrywiol ar gyfer 3 Dads Walking a Papyrus UK, gan ledaenu’r neges bod gobaith a chefnogaeth ar gael. Fel dewis ein staff ar gyfer elusen staff y flwyddyn eleni, byddwn yn rhannu diweddariadau o’n gweithgareddau codi arian ar gyfer yr elusen ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan cronfa gymunedol.
Trwy ein gweithgareddau rydyn ni hefyd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r achos pwysig hwn a chyfeirio’r rhai sydd angen help a chefnogaeth i’w llinell gymorth Hopeline247 – Ffôn: 0800 068 41 41.
Diolch, Mike a Gus, am ymweld â ni a’n hysbrydoli. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cerdded gyda chi.
Dysgwch fwy a chefnogwch:
3 Dads Walking https://www.3dadswalking.uk/
Papyrus UK https://www.papyrus-uk.org/