Watkin Property Ventures yn parhau i gefnogi criced yng ngogledd Cymru

Mae Watkin Property Ventures wedi atgyfnerthu ei ymrwymiad i chwaraeon llawr gwlad yn y rhanbarth eto eleni gyda chytundeb nawdd newydd â Criced Cymru.

Mae WPV wedi bod yn brif noddwr o’r rhaglen Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd) ers ei sefydlu yn 2022, gan gyfrannu at gostau gweithredu allweddol fel hyfforddiant, teithio, a pharatoi y gêmau.

Bellach yn ei bedwerydd tymor, Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd) yw’r tîm datblygu rhanbarthol o dan dîm dynion hŷn Siroedd Cenedlaethol Cymru, gan roi’r cyfle i chwaraewyr o’r gogledd a’r canolbarth gystadlu ar y lefel uchaf. Mae gan y rhaglen dimau dan 19 ac oedolion, gan gynnig pont rhwng criced clwb a Chymdeithas Griced y Siroedd Cenedlaethol.

Dywedodd Matt Dando-Thompson, Pennaeth Llwybr Talent Criced Cymru: “Rydyn ni’n ddiolchgar i’n holl gefnogwyr ar draws y rhaglen yma, ond yn diolch yn arbennig i Watkin Property Ventures sydd wedi bod efo ni ers y dechrau. Maen nhw wedi gweld y potensial ac wedi bod yn rhan allweddol o’r twf.”

Ychwanegodd Cadeirydd WPV, Glyn Watkin Jones: “Rydyn ni’n falch o barhau i gefnogi Criced Cymru a rhaglen Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd). Ers 2022, rydyn ni wedi gweld y fenter yn tyfu mewn maint ac effaith, gan roi llwyfan i chwaraewyr talentog o’n rhanbarth i ddatblygu. Mae cefnogi datblygu athletwyr ifanc a chryfhau chwaraeon llawr gwlad y y gogledd yn bwysig i ni yn Watkin Property Ventures.”

Mae tîm Siroedd Cenedlaethol Cymru (Gogledd) wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ehangu ei bresenoldeb ar draws y rhanbarth, gyda gemau yn cael eu cynnal ym Mangor, Brymbo a Llanelwy yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Llanelwy yn cynnal gêm bencampwriaeth yn ystod tridiau olaf y tymor yng Nghymdeithas Griced y Siroedd Cenedlaethol yn erbyn yr Amwythig rhwng Awst 31 a Medi 2.

Hyd yma, mae wyth chwaraewr o drefniant Gogledd Cymru wedi mynd ymlaen i gynrychioli tîm hŷn Cenedlaethol Siroedd Cymru, arwydd clir o effaith y rhaglen.

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:45:26.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com