Ymweliad â Banc Bwyd Coed Mawr

Yn ystod mis Mehefin, aethom i ymweld â Banc Bwyd Coed Mawr ym Mangor – i weld sut mae’n gweithio, ac i eistedd i lawr gyda Christine, Colin, a gweddill y tîm am baned a sgwrs.

Roedd yn gyfle i glywed am yr effaith mae’r banc bwyd yn ei gael ar y gymuned. Maen nhw’n cefnogi hyd at 60 o deuluoedd bob wythnos gyda phecynnau bwyd, ac yn cynnig lle cynnes, croesawgar i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Roedd hi’n hyfryd cwrdd â Christine a Colin eto. Mae’r ddau yn rhoi cymaint o’u hamser a’u hegni i helpu eraill.

Mae Watkin Property Ventures (WPV) yn falch o barhau i gefnogi’r tîm anhygoel yma a’r gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud bob dydd.

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 20:14:03.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com