Cefnogi Adegau o Bwys – Ymweliad â Tŷ Gobaith
Rydym yn falch o ddathlu carreg filltir bwysig yn ein partneriaeth gyda Hosbis Tŷ Gobaith.
Ym mis Tachwedd 2024 fe wnaethon ni gyfrannu £20,000 i ymgyrch Quality Moments Matter Tŷ Gobaith – ac yn ystod mis Gorffennaf, aeth ein Swyddog Cyfathrebu a Chyfryngau Cymdeithasol, Juliet draw i’r hosbis i weld effaith uniongyrchol y gefnogaeth yma.
Diolch yn rhannol i’r cyllid, mae Tŷ Gobaith bellach wedi cwblhau estyniad wedi’i adnewyddu i safon uchel ac wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer rhieni. Mae’n ofod cynnes, preifat a chyfforddus ble gall teuluoedd aros yn agos i’w plant yn ystod yr adegau fwyaf heriol. Mae’r estyniad pwysig yma yn sicrhau fod rhieni yn gallu bod yn agos i’w anwyliaid mewn awyrgylch cartrefol – rhan annatod o genhadaeth yr hosbis i gynnig gofal tosturiol.
Mae WPV yn falch o gefnogi gwaith gwych Tŷ Gobaith ac yn diolch yn fawr i’r tîm yno am ein croesawu ac am eu cefnogaeth ddiflino i blant a theuluoedd ar draws y gogledd.
Am fwy o wybodaeth: Match funded Quality Moments Matter campaign for Hope House Ty Gobaith