Cyflwyno Siec o £10K i Glwb Criced Bangor
Fel rhan o’n haddewid i roi £10k yn flynyddol am ddeg mlynedd i Glwb Criced Bangor, roedd Juliet Williams wedi cyflwyno siec i’r clwb yn ddiweddar. Bydd y gefnogaeth, sef cyfanswm o £100k erbyn 2034, yn cefnogi recriwtio hyfforddwyr a gwella cyfleusterau’r clwb.
Cafodd y rhodd gyntaf o £10,000 ei gwneud yn 2024, gan alluogi’r clwb i benodi hyfforddwr proffesiynol i oruchwylio pob grŵp oedran. Maent hefyd wedi penodi hyfforddwr a rheolwr ar gyfer pob tîm ieuenctid, er mwyn sicrhau llif cyson o chwaraewyr i’r tîm hŷn.
Mae’r ymrwymiad hwn yn deillio o bartneriaeth hirdymor gyda Watkin Property Ventures ac yn rhan o weledigaeth y cwmni i weithio gyda chymdeithasau elusennol a grwpiau lleol drwy ei Gronfa Gymunedol.
Mae Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures, wrth ei fodd yn cefnogi’r clwb. Dywedodd: “Rydym yn falch o gefnogi Clwb Criced Bangor gyda’r ymrwymiad hirdymor hwn. Mae criced yn chwarae rôl hanfodol wrth ddod â chymunedau ynghyd, ac rydym yn credu mewn buddsoddi mewn mentrau sy’n creu cyfleoedd, yn ysbrydoli pobl ifanc, ac yn cryfhau ysbryd lleol.
“Drwy roi £10,000 bob blwyddyn am 10 mlynedd, rydym yn gobeithio helpu’r clwb i dyfu a ffynnu, ar y cae ac oddi arno. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y bartneriaeth hon yn ei chael.”
Mae Tŷ Newydd, maes criced y clwb, yn gartref i amryw o dimau criced, gan gynnwys y timau merched, dynion a ieuenctid. Mae’r clwb hefyd yn ganolfan gymunedol, yn annog pobl ifanc o’r ardal i chwarae criced, dysgu sgiliau newydd ac i gymdeithasu yn eu hamser hamdden.
Mae Gareth Edwards, Cadeirydd Clwb Criced Bangor, yn ddiolchgar iawn o’r gefnogaeth gan WPV. Dywedodd, “Mae’r rhodd blynyddol yn ein galluogi i gynllunio’n hyderus ar gyfer y dyfodol. Gan wybod bod y cyllid yn ei le, gallwn gadw hyfforddwyr ymroddedig a pharhau i ddarparu profiad cyson o safon uchel i’n chwaraewyr ifanc.
“Wrth i’n henw da am ddatblygu talent dyfu, mae mwy o bobl ifanc leol yn cael eu denu at y clwb. Bellach mae gennym dros 60 o blant yn hyfforddi ar nos Wener – sy’n wych.
“Mae’r gefnogaeth hon yn ein helpu i gynnal momentwm, meithrin perthynas gref rhwng plant ac hyfforddwyr, a chadw criced yn hwyl ac yn berthnasol. Pan fydd hyfforddwyr yn ymroddedig ac yn gyson, mae’r chwaraewyr ifanc yn ffynnu.”