Blaenoriaethu iechyd meddwl yn y gwaith
Mae cyflogwr blaenllaw yng Ngogledd Cymru yn rhoi lles staff yn gyntaf yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni gyda chyfres o ddigwyddiadau i gefnogi staff ac annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl.
Mae Watkin Property Ventures (WPV), cwmni o Fangor sy’n arbenigo yn y sector eiddo, wedi cynllunio wythnos lawn o weithgareddau o’r 12fed i’r 18fed o Fai, wedi’u cynllunio i helpu staff i feithrin arferion cadarnhaol ar gyfer lles meddwl yn y gwaith a thu hwnt.
Mae’r wythnos yn cychwyn gan atgoffa staff bod cwnsela a chefnogaeth ar gael i bob gweithiwr. Bydd y cwmni’n rhannu canllawiau gyda’r dîm ar sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, gan annog unrhyw un sy’n cael trafferth i ofyn am gymorth, boed drostynt eu hunain neu rywun agos atynt.
Bydd clwb llyfrau staff WPV hefyd yn chwarae rhan yn nigwyddiadau’r wythnos, gan gynnig cyfle i ymlacio a sgwrsio am lyfr da. O ffuglen i gofiannau, mae cydweithwyr yn dweud ei fod yn ffordd dda iddynt ymgysylltu gyda’i gilydd ar bynciau y tu hwnt i faterion gwaith. Ar ddydd Mercher 14eg o Fai, bydd staff yn cael eu hannog i gamu oddi wrth eu desgiau a chymryd rhan mewn Taith Gerdded Llesiant. Gall unigolion gerdded ar eu pennau eu hunain, gyda chydweithiwr, neu fel rhan o grŵp – mae’r daith gerdded amser cinio’n gyfle i fwynhau awyr iach ac i godi egni.
I gynnal y momentwm, bydd ‘her camau’ yn rhedeg drwy gydol yr wythnos, gyda chystadleuaeth yn helpu i annog symud dyddiol – gyda gwobr i’r rhai sy’n mynd y filltir ychwanegol ac yn cerdded y nifer uchaf o gamau. I gloi gweithgareddau’r wythnos, bydd cinio yn cael ei gynnal ar y dydd Gwener, a phawb yn cael ei annog i ddod â phryd i’w rannu gyda chydweithwyr.
Dywedodd sylfaenydd a Phrif Weithredwr Watkin Property Ventures, Mark Watkin Jones: “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig a sut rydym yn gofalu am ein hunain a’n gilydd. Ein nod yw creu gweithle lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu siarad yn agored am eu lles. Mae hyn yn rhan bwysig o’n gwerthoedd fel cwmni.”
Mae’r WPV yn awyddus i rannu’r weledigaeth hon a phwysigrwydd blaenoriaethu iechyd meddwl, nid yn unig am yr un wythnos, ond drwy gydol y flwyddyn.