Tŷ Gobaith yn derbyn rhodd o £20,000 gan grŵp eiddo lleol
Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi addo rhodd o £20,000 i Tŷ Gobaith fel rhan o’u cefnogaeth barhaus i’r elusen. Bydd y rhodd yn cyfrannu at ymgyrch yr hosbis, sy’n ceisio gwella ansawdd bywyd plant sydd yn dioddef â salwch terfynol.
Mae Tŷ Gobaith yn gweithio gyda phlant o bob rhan o’r gogledd sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd, gan ddarparu gofal a chymorth proffesiynol i’w teuluoedd. Gyda thîm wedi’i leoli ar draws y rhanbarth, roedd staff WPV yn awyddus i gymryd rhan yn yr ymgyrch a chyfrannu at achos mor arbennig.
Dywedodd Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr WPV: “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r elusen bwysig hon, sy’n cael effaith mor gadarnhaol ar blant lleol a’u teuluoedd. Gall wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl, ac rydym yn falch o barhau â’n cefnogaeth a bod yn rhan o’r gwaith codi arian.”
Fel rhan o’u hymdrechion i godi arian, bydd Tŷ Gobaith yn cynnal marathon 36 awr i godi £400,000 yn ychwanegol tuag at yr ymgyrch, sy’n cynnwys digwyddiad byw yng Nghaer lle bydd rhai aelodau o staff WPV hefyd yn cymryd rhan.
Ychwanegodd Andy Everley o Tŷ Gobaith: “Mae angen i ni godi £400,000 yn ychwanegol fel y gallwn gynnig fwy o brofiadau sy’n dod a hwyl a hapusrwydd i bob plentyn, ac rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Watkin Property Ventures am ymuno i ddyblu’r arian sy’n cael ei roi i ni. Heb hyn, ni fyddwn yn gallu gofalu am anghenion gofal clinigol y plant, nac ychwaith yn gallu darparu gweithgareddau ychwanegol o fudd megis dyddiau allan a chwarae therapiwtig.
“Bydd ein hymgyrch yn dibynnu ar fuddsoddiad cychwynnol o £200,000 gan ein cefnogwyr mwyaf hael, fel Watkin Property Ventures, er mwyn creu pot cyfatebol o arian a fydd yn annog y gymuned ehangach i roi rhodd yn ystod ein hymgyrch 36 awr, oherwydd bydd yn cael ei gyfateb.
Mae WPV yn falch o gefnogi Tŷ Gobaith ers 2021. I ddarganfod mwy am farathon codi arian 36 awr Tŷ Gobaith, ewch i: Quality Moments Matter