Tîm Criced Gogledd Cymru yn derbyn rhodd gan Ddatblygwr Eiddo Lleol

Erthygl wedi ei hysgrifennu gan Criced Cymru.

Wrth i dîm Sir Genedlaethol Cymru (Gogledd) dynnu at ddiwedd y tymor, roedd chwaraewyr yn falch iawn o groesawu’r prif noddwyr, Watkin Property Ventures (WPV) i wylio’u gêm diweddaraf yn erbyn Sir Northumberland yng Nghlwb Criced Bangor.

Sefydlwyd y tîm, sy’n cynnwys tîm hŷn a thîm dan 19, yn ôl yn 2022, dan faner Sir Genedlaethol Cymru, sydd yn gangen o lwybr cenedlaethol Criced Cymru. Mae’r tîm yn cynrychioli uchafbwynt o’r gêm hamdden yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, sy’n bwydo’n uniongyrchol i dîm dynion hŷn Cymru sy’n cystadlu yn ngemau Cymdeithas Criced Cenedlaethol y Siroedd (NCCA). Bwriad sefydlu yng Ngogledd Cymru yw i ddarparu cyfnod pontio o ddatblygiad rhwng criced y gynghrair a chriced sirol cenedlaethol, gan obeithio y gall chwaraewyr symud ymlaen i griced cynrychiadol pellach ac o bosibl, gyrfa criced broffesiynol.

Ers 2022, mae chwech o Ogledd Cymru wedi cynrychioli tîm hŷn Cymru, ac mae’r chwaraewyr yn parhau i arddangos eu galluoedd trwy raglenni’r gaeaf a’r haf. Mae Sir Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i fod yn sylweddol fwy gweladwy yn y rhanbarth yn dilyn ymweliadau â Bangor yn 2022 (Cwpan T20 NCCA), Brymbo yn 2023 (Pencampwriaeth 3 Diwrnod NCCA) ac, yn fwy diweddar, Llanelwy yn 2024 (Cwpan T20 NCCA). Mae cynlluniau yn parhau i fod ar y trywydd cywir i ddychwelyd yn 2025, naill ai ar gyfer gêm 50-trosiad neu 2 ddiwrnod.

Tra bod Sir Genedlaethol Cymru (Gogledd) a’i gweithrediadau’n cael ei hariannu’n rhannol gan Sir Genedlaethol Cymru a Chriced Cymru, maent yn parhau i ddibynnu’n drwm ar gefnogaeth fasnachol a nawdd allanol. Mae Watkin Property Ventures wedi bod yn un o brif noddwyr y tîm ers y cychwyn cyntaf, gan ddarparu cymorth amhrisiadwy sydd wedi cynorthwyo’n bennaf gyda chostau hyfforddi a rhaglenni gemau dros y tri tymor diwethaf.

Dywedodd Matt Thompson, sy’n Bennaeth Llwybr Talent yn Criced Cymru, am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan WPV: “Rydym yn hynod ddiolchgar i WPV am eu cefnogaeth barhaus eleni yn ogystal â’r ddwy flaenorol. Er bod y rhaglen dim ond yn ei thrydydd tymor, mae tystiolaeth yno sy’n dangos ei fod yn cael effaith bositif sylweddol ar griced Gogledd Cymru, a thu hwnt. Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o chwaraewyr o’r rhanbarth yn rhoi eu henwau ymlaen i gystadlu mewn criced cynrychiadol uwch, ac rydyn ni’n gweld pobl ieuengach yn cychwyn sefydlu eu hunain fel gweithredwyr safonol mewn criced cynghrair, sydd, yn ei dro, yn codi’r safon yn gyfan gwbl. Yn syml, ni fyddai wedi bod yn bosibl i camau rydyn ni wedi’u gwneud heb gymorth WPV, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y bartneriaeth yn parhau am gyfnod ehangach.”

Mynegodd Russel Penrhyn Jones, Sylfaenydd a Rheolwr cynllun Sir Cenedlaethol Cymru (Gogledd): “Mae’n anodd disgrifio lle bydden ni heb gefnogaeth WPV. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr ariannu gan Criced Cymru, gan ei fod wedi galluogi i ni adeiladu sail ar gyfer y rhaglen hon, ond rydyn ni wedi gallu adeiladu ar hwn yn llawer cynt, diolch am y gefnogaeth rydyn ni wedi’i dderbyn gan WPV. Rydym ni eisiau creu etifeddiaeth barhaus i gricedwyr heddiw ac yfory yn y rhanbarth, ac er bod gennym ni dipyn o ffordd i fynd, rydyn ni wedi gwneud dechrau gwych ohoni.”

Mae Prif Weithredwr WPV, Mark Watkin-Jones, yn falch iawn o fod wedi cefnogi Sir Genedlaethol Cymru (Gogledd) am flwyddyn arall. Dywedodd, “Rydym yn gweld ein hunain yr effaith y gall chwaraeon fel criced ei chael ar fywoliaeth ac iechyd meddwl pobl, a dyma pam ein bod yn angerddol am ariannu prosiectau fel hyn, er mwyn sicrhau y gallwn ni gefnogi’r rheini yn ein cymunedau lleol. Rydym wrth ein boddau ein bod yn cefnogi Sir Genedlaethol Cymru (Gogledd) eto eleni, ac rydyn ni’n gobeithio bod effaith ein cyfraniad yn sicrhau bod buddion chwaraeon cymunedol, fel criced, yn parhau yng Ngogledd Cymru.”

 

Cheque presentation

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 19/08/2026 21:10:58.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com