Cyflwyno siec i Hosbis Plant Tŷ Gobaith

Rydym yn falch o barhau â’n cefnogaeth i Hosbis Plant Tŷ Gobaith, gan addo £20,000 tuag at eu hymgyrch Quality Moments Matter 2025. 

Cafodd aelodau o’n Pwyllgor Elusennol gyfarfod efo Andy Everley, Rheolwr Codi Arian Tŷ Gobaith, i gyflwyno’r siec a dangos ein hymrwymiad i helpu i roi amser cofiadwy i blant a’u teuluoedd ar draws y gogledd. 

Bydd Tŷ Gobaith yn lansio’r marathon codi arian 36 awr ar 23-24 Tachwedd 2025 i helpu i godi £500,000 fel y gall plant sydd â chyflyrau sy’n peryglu bywyd a’u teuluoedd gael creu atgofion gwerthfawr i’w trysori. Rydym yn falch iawn o fod yn un o’u partneriaid ariannu cyfatebol. Bydd pob £1 sy’n cael ei godi yn cael ei ddyblu – felly mae’r effaith yn mynd ddwywaith mor bell. 

Mae cefnogi achos sy’n dod â gofal, llawenydd ac atgofion ar adeg mor bwysig yn rhywbeth rydym yn hynod falch o fod yn rhan ohono. 

Dyma’r ddolen at y fideo ymgyrch: https://vimeo.com/1137246699/610eb74e92?share=copy&fl=sv&fe=ci 

Am fwy o wybodaeth ewch i: Quality Moments Matter 

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:43:57.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com