Cyflwyno Siec i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Roedden ni’n hynod falch o gyflwyno siec am £2,121.60 i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, ein helusen staff ar gyfer y flwyddyn.

Dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae ein Pwyllgor Elusennau wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer staff, ffrindiau a theulu gan gynnwys diwrnod gwerthu cacennau, her camau, raffl a thaith gerdded elusennol. Hefyd, fel cwmni, rydym yn matsio’r cyfanswm sydd wedi ei godi ac yn dyblu’r rhodd derfynol i’r elusen!

Mae’r dewis o elusen a’r rhodd hon yn golygu llawer i un o’n cydweithwyr yn arbennig, y cafodd perthynas iddo ei achub gan dîm Dyffryn Ogwen ar ôl cwymp o 30 troedfedd wrth gerdded. Rydym mor falch o allu rhoi rhywbeth yn ôl i elusen sy’n darparu cefnogaeth hanfodol, ac sy’n achub bywydau yn ein cymuned.

Gwirfoddolwyr o bob cefndir yw holl aelodau Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen – mynyddwyr profiadol gyda gwybodaeth leol eithriadol, hyfforddiant cymorth cyntaf, a sgiliau arbenigol mewn gofal anafiadau, gyrru brys, ac achub pobl o ddŵr.

Fel elusen gofrestredig, maen nhw’n yn dibynnu’n llwyr ar roddion cyhoeddus fel eu bod yn gallu parhau gyda’u gwasanaeth achub bywydau. Roedden nhw’n hynod ddiolchgar am ein cefnogaeth.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein gweithgareddau codi arian – bydd eich haelioni yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Argraffwyd o www.wpvcommunityfund.com ar 18/08/2026 19:44:46.

6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH

Ffôn: 01745 630466
Ebost: communityfund@watkinpv.com