Elusen Staff y Flwyddyn 2025
Rydym yn falch cyhoeddi mai ein elusen staff ar gyfer 2025 yw Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen. Mae’r sefydliad yn dîm achub sy’n ymateb i ddigwyddiadau yn mynyddoedd Dyffryn Ogwen, Glyderau, a’r Carneddau yng ngogledd Eryri.
Mae’r tîm yn cynnwys gwirfoddolwyr ar alwad 24 awr y dydd drwy gydol y flwyddyn. Hyd yn hyn eleni, maen nhw wedi ymateb i 169 o ddigwyddiadau yn yr ardal. Bob blwyddyn, mae staff Watkin Property Ventures (WPV) yn dewis elusen i’w chefnogi drwy gydol y flwyddyn drwy drefnu digwyddiadau codi arian amrywiol. Yn ddiweddar roedd angen cefnogaeth Achub Mynydd Dyffryn Ogwen ar un o aelodau teulu WPV, a wnaeth yr elusen yn ddewis clir i’r elusen staff eleni. Mae’r staff yn edrych ymlaen at drefnu mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau codi arian.
Mae Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl o gefnogaeth y cyhoedd, codwyr arian a rhoddion. I ddarganfod mwy: Home – Ogwen Valley Mountain Rescue Organisation – Ogwen Valley Mountain Rescue