Clwb Criced Bangor yn sicrhau buddsoddiad o £100k
Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi ymrwymo i gyfrannu £10k y flwyddyn i Glwb Criced Bangor tan 2034 er mwyn recriwtio hyfforddwyr a gwella cyfleusterau’r clwb.
Daw’r rhodd yn dilyn partneriaeth rhwng y clwb a’r busnes sydd wedi ymestyn dros sawl blwyddyn. Mae gweithio gydag elusennau a grwpiau lleol trwy ei Gronfa Gymunedol yn rhan ganolog o genhadaeth WPV.
Mae Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures, yn falch o barhau gyda’r gefnogaeth, wedi noddi deg mil i’r clwb flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd: “Mae chwaraeon yn hanfodol i’n cymunedau; mae’n cysylltu pobl, yn annog cynhwysiant ac yn gwella iechyd meddwl. Rydyn ni’n gobeithio gall yr ymrwymiad hirdymor hwn helpu’r clwb i ddatblygu, cynllunio a pharhau i fod o fudd i chwaraewyr ifanc a’r gymuned leol.
“Rydyn ni eisiau cefnogi achosion fel hyn sy’n cael effaith gadarnhaol yn lleol, ein prif flaenoriaeth yw i gefnogi prosiectau sy’n gwella iechyd meddwl. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r clwb hanesyddol hwn ac yn edrych ymlaen i weld sut y bydd yr arian yn helpu chwaraewyr ac ymwelwyr i fwynhau criced i’r dyfodol.”
Mae Tŷ Newydd, maes y clwb criced yn gartref i wahanol dimau, gan gynnwys timau menywod, dynion ac iau. Mae’r clwb hefyd yn gweithredu fel canolbwynt cymunedol, gan annog pobl ifanc o’n cymuned i chwarae, dysgu sgiliau newydd, a chymdeithasu yn eu hamser hamdden.
Roedd Gareth Edwards, Cadeirydd Clwb Criced Bangor yn awyddus i ddiolch i WPV am eu haelioni. Dywedodd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Mark a Chronfa Gymunedol WPV am yr ymrwymiad sylweddol hwn. Heb os, bydd yn ein helpu i ddatblygu a sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn gallu rhannu’r budd gyda chymaint o bobl yn ein cymuned â phosib.
“Gyda’r arian yma, gallwn wella ein cyfleusterau ymwelwyr a chefnogi ein chwaraewyr a’n hyfforddwyr yn well. Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn”.