Clwb Criced Bangor yn ei tharo hi am chwech diolch i rodd o £10,000
Diolch i gyfraniad gan Watkin Property Ventures bydd Clwb Criced Bangor yn cyflogi hyfforddwyr newydd i gefnogi eu gwirfoddolwyr a chwaraewyr iau. Bydd y cyfraniad o £10,000 yn cefnogi’r clwb wrth iddyn nhw hyrwyddo chwaraeon a recriwtio aelodau newydd yn y gymuned leol.
Cyflwynwyd y rhodd gan Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures, i Gareth Edwards, Cadeirydd y Clwb Criced. Caiff yr arian ei ddefnyddio i wella hyfforddiant, datblygu talent newydd a phresennol, ac adeiladu strwythur fydd yn cefnogi datblygiad chwaraewyr iau am flynyddoedd i ddod.
Dywedodd Mark Watkin Jones: “Rydym ni’n falch iawn o gael estyn ein cefnogaeth i Glwb Criced Bangor. Mae gan chwaraeon allu arbennig i ddod â phobl at ei gilydd, i gynnwys pawb, ac i wella iechyd meddwl. Fel cwmni sydd â’n gwreiddiau’n ddwfn yn y gymuned, rydym yn credu mewn buddsoddi mewn sefydliadau lleol sy’n cael effaith gadarnhaol, ac mae’r hyn mae Clwb Criced Bangor yn ei wneud yn cyd-fynd â’r weledigaeth yma.”
Cafodd Clwb Criced Bangor ei sefydlu yn 1856 gyda’r cae chwarae yn Tŷ Newydd yn gartref iddynt ers bron i ganrif. Dros y fwlyddyn diwethaf, mae’r clwb wedi bod yn datblygu y timau iau ac wedi cychwyn tîm merched. Yn weithgar yn y gymuned, mae Clwb Criced Bangor yn ganolfan i bobl ifanc ddod i roi cynnig ar chwarae criced, dysgu sgiliau newydd, a chymdeithasu.
Mae Gareth Edwards yn falch o’r bartneriaeth gyda Watkin Property Ventures. Dywedodd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Mark a’r cwmni am eu nawdd hael. Bydd y cyfraniad sylweddol yma yn mynd ymhell i gryfhau ein hymdrechion i greu cymuned sy’n ffynnu i’n haelodau ac i rai sydd gan ddiddordeb mewn chwarae criced. Gyda’r arian, fe allwn wella ein cyfleusterau a gall ein chwaraewyr gael hyfforddiant gan dîm profiadol. Heb os, bydd y rhodd yn annog datblygiad ein cricedwyr ifanc.”
Mae rhodd Watkin Property Ventures i Glwb Criced Bangor yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i’r gymuned ac i gyfrifoldeb cymdeithasol. Mae’r cwmni yn chwarae rhan fawr mewn amrywiol fentrau elusennol, gan gefnogi rhaglenni addysg, gofal iechyd, a chwaraeon ledled y rhanbarth.